Mae Ardal Partneriaeth Cymdogaeth Dwyrain Caerdydd yn cynnwys Wardiau Etholiadol Llanrhymni, Tredelerch a Trowbridge a’r rhan fwyaf o Sector Heddlu Cymdogaeth Tredelerch / Llaneirwg. Mae’r ardal yn gartref i dros 36,600 o bobl, ychydig dros un o bob deg o boblogaeth y ddinas.
Mae’r prif gymunedau preswyl yn Nwyrain Caerdydd i’r gogledd o’r brif reilffordd. Mae cymysgedd o ddeiliadaethau tai, gyda thros 30% o’r stoc anheddau’n Llanrhymni a Trowbridge yn y sector rhent cymdeithasol. I’r de o’r brif reilffordd mae ardaloedd cyflogaeth a busnes Gwynllŵg, a safle teithwyr Shirenewton.
Mae gan yr ardal ystod o gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol. Mae Hybiau Crickhowell Road (Llaneirwg) a Countisbury Avenue (Llanrhymni) bellach yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau cyngor a gwybodaeth, yn ogystal â llyfrgell a chyfleusterau dysgu.
Cynlluniau Gweithredu Partneriaeth Cymdogaeth
Nod y Cynlluniau Gweithredu Cymdogaeth yw cydlynu datrysiadau amlasiantaethol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r Cynlluniau Gweithredu wedi'u datblygu i sicrhau bod grwpiau'r Bartneriaeth yn gweithio i nodi datrysiadau lleol a gwella ansawdd bywyd dinasyddion dan y saith canlyniad a nodwyd yn strategaeth Beth sy'n Bwysig.
Dysgu am Bartneriaeth Cymdogaeth Caerdydd
Adroddiadau Uchafbwyntiau Dwyrain Caerdydd
Adroddiadau Gwybodaeth am y Gymdogaeth
Fel rhan o waith i gefnogi trefniadau Partneriaeth Cymdogaethau yng Nghaerdydd, mae cyfres o Adroddiadau Gwybodaeth Cymdogaethau ddwywaith y flwyddyn wedi eu paratoi ar gyfer aelodau etholedig, timau Partneriaeth Cymdogaethau a phartneriaid eraill.
Maent yn dod â’r ystod o ddata a gwybodaeth sydd ar gael ar lefel Partneriaeth Cymdogaethau ynghyd, yn ogystal â dadansoddiad tueddiadau lle'n briodol.
Cliciwch isod i lawrlwytho'r adroddiadau