Yn yr adroddiad hwn mae Caerdydd wedi’i rhannu’n chwe ardal cymdogaeth. Mae’r rhain yn adlewyrchu ‘Partneriaethau Cymdogaeth’ Caerdydd, sy’n dod â phobl, darparwyr gwasanaeth cyhoeddus a swyddogion penderfyniadau ynghyd i ddatblygu datrysiadau cymunedol i faterion lleol.

Mae asesiadau lles wedi’u cynnal ym mhob cymdogaeth yn dangos sut mae cymunedau gwahanol yn profi bywyd yng Nghaerdydd. Mae’r rhain ar gael yn www.partneriaethcaerdydd.co.uk.

Gorllewin Caerdydd

  • Dyma lle mae’r nifer leiaf o bobl yn poeni am ddiogelwch yn ystod y dydd/ar ôl iddi nosi
  • Dyma lle mae’r nifer fwyaf sy’n cytuno bod Caerdydd yn lle glân, deniadol i fyw
  • Llawer o bobl mawr hŷn gyda chymhareb ddibyniaeth uchel
  • Disgwyliad oes cymharol uchel ond gyda chrynodiadau isel ymysg dynion
  • Ddim yn teimlo’n ddiogel wrth feicio
  • Defnydd uchel o gar i deithio i’r gwaith

 

De-orllewin Caerdydd

  • Poblogaeth ifanc
  • Y boblogaeth fwyaf o Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
  • Dyma lle mae’r nifer leiaf o bobl yn poeni am ddiogelwch yn ystod y dydd/ar ôl iddi nosi
  • Lefelau uchel o amddifadedd gyda dwy o bob pum cymuned (41.2%) yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru
  • Cymhareb uchel o bobl ifanc ddibynnol
  • Lefel uchel o bryder ynghylch gallu fforddio safon byw derbyniol
  • Nifer uchel o bobl yn hawlio budd-daliadau
  • Ddim yn teimlo’n ddiogel ar feic neu’n gyrru ar y ffyrdd

 

Dinas a De Caerdydd 

  • Poblogaeth ifanc (myfyrwyr prifysgol)
  • Y boblogaeth fwyaf o Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
  • Nifer isel o bobl yn hawlio budd-daliadau
  • Nifer gymharol uchel yn cytuno bod pobl yn cael mynediad i gyfleoedd i gyflawni eu potensial
  • Dim llawer yn poeni am ddiogelwch wrth gerdded yng nghanol y ddinas yn ystod y dydd/ar ôl iddi nosi
  • Ardal gymharol ddifreintiedig – bron rhan o bump (39.1%) o’r cymunedau yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru
  • Lefel isel o foddhad o ran iechyd
  • Crynodiad uchel o allyriadau NO2

 

Gogledd Caerdydd

  • Dyma lle mae dinasyddion yn poeni leiaf am allu fforddio safon byw derbyniol
  • Y gyfradd isaf o bobl sy’n hawlio budd-daliadau
  • Y nifer uchaf sy’n cytuno bod pobl yn cael mynediad i gyfleoedd i gyflawni eu potensial
  • Y lefel uchaf o foddhad o ran iechyd
  • Poblogaeth hŷn â chymhareb ddibyniaeth uchel
  • Diogelwch ddim yn broblem yn ystod y dydd
  • Llawer yn poeni am ddiogelwch yn y nos yng nghanol y ddinas
  • Defnydd uchaf o gar neu fan i deithio i’r gwaith

 

De-ddwyrain Caerdydd

  • Poblogaeth fawr o fyfyrwyr a’r gymhareb ddibyniaeth isaf
  • Lefel gymharol uchel o foddhad o ran iechyd
  • Boddhad isaf â gwasanaethau cyhoeddus
  • Dyma lle mae’r nifer leiaf yn teimlo’n ddiogel ar feic neu’n gyrru ar y ffyrdd
  • Boddhad isaf o ran iechyd meddwl
  • Nifer isel yn cytuno bod pobl yn cael mynediad i gyfleoedd i gyflawni eu potensial
  • Nifer isaf yn teithio i’r gwaith yn y car
  • Crynodiad uchel o lefelau NO2

 

Dwyrain Caerdydd

  • Poblogaeth fawr o Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
  • Canfyddiad mawr o ddiogelwch gartref yng ngolau ddydd.
  • Poblogaeth ifanc â’r gymhareb ddibyniaeth uchaf
  • Lefelau uchel o amddifadedd gyda dwy o bob pum cymuned (43.5%) yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru
  • Dyma lle mae’r nifer fwyaf yn poeni am fforddio safon byw derbyniol
  • Nifer fawr o bobl yn hawlio budd-daliadau (uchaf ar gyfer pobl ifanc 18-24 oed)
  • Disgwyliad oes cymharol isel
  • Boddhad cymharol isel â gwasanaethau cyhoeddus
  • Dyma lle mae’r nifer isaf yn cytuno bod pobl yn cael mynediad i gyfleoedd i gyflawni eu potensial
  • Lefel isaf o foddhad o ran iechyd
  • Dyma lle mae’r mwyaf o bobl yn poeni am ddiogelwch yn y nos