Caerdydd Heddiw

Byddai trosolwg syml o berfformiad y ddinas ar draws y canlyniadau yn yr adroddiad hwn yn awgrymu bod Caerdydd yn perfformio’n dda o’i chymharu â Dinasoedd Craidd a rhannau eraill o Gymru ar draws ystod o ffactorau a all effeithio ar lesiant trigolion. Fodd bynnag, fel yn achos dinasoedd eraill yn y DU, gwelir bod anghydraddoldebau sylweddol wedi ymwreiddio yng Nghaerdydd.

Er mai’r ddinas yw peiriant masnachol y genedl, mae dros 60,000 o bobl Caerdydd yn byw yn y 10% o gymunedau mwyaf amddifad yng Nghymru. Dim ond mewn dau awdurdod lleol arall yng Nghymru – Merthyr a Blaenau Gwent – y mae canran uwch o’u poblogaeth sy’n byw yn y cymunedau tlotaf yng Nghymru. Mae bron i draean o aelwydydd Caerdydd yn byw mewn tlodi, gyda chanran uchel o blant yn byw ar aelwydydd di-waith ac incwm isel.  Yn ogystal, mae lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd cyfyngus yn fwy agored i ddiweithdra tymor hir.

Ceir gwahaniaethau amlwg mewn ffyniant rhwng gogledd a de’r ddinas, gyda chyfraddau diweithdra yn Nhrelái bron i ddeg gwaith yn uwch na’r rhai yn y Creigiau. Mae’r gwahaniaethau mewn canlyniadau iechyd hyd yn oed yn fwy amlwg, gyda bwlch disgwyliad oes iach o 22 i 24 o flynyddoedd rhwng y cymunedau cyfoethocaf a thlotaf, gyda marwolaeth o glefyd y galon, er enghraifft, saith gwaith yn uwch yng Nglan-yr-afon nag yw yn Thornhill. I ddynion yn y cymunedau tlotaf hyn, rhagwelir y bydd disgwyliad oes iach yn lleihau.

Ar ben hynny, mae mwyafrif yr ymadawyr ysgol nad ydynt yn trosglwyddo’n llwyddiannus i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth, yn byw yn ardaloedd mwyaf amddifad y ddinas.  Er bod perfformiad ysgol ar draws y ddinas wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae gormod o ysgolion yn tanberfformio, yn enwedig yng nghymunedau mwyaf amddifad y ddinas. Yn yr un modd, mae’r bwlch rhwng y disgyblion hynny sy’n cael prydau ysgol am ddim (PYDd) a’r rhai nad ydynt yn parhau i fod yn sylweddol, sy’n dangos bod gormod o blant sy’n byw mewn tlodi ariannol yn methu â chyflawni eu potensial yn yr ysgol. Nid yn unig y bydd hyn yn effeithio ar eu cyfleoedd mewn bywyd, ond dengys tystiolaeth y bydd hefyd yn rhoi pwysau yn y tymor hir ar wasanaethau cyhoeddus, ac yn arwain at golled mewn cynnyrch economaidd.

Caerdydd Yfory

Ailddyfeisiwyd Caerdydd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, er bod y ddinas wedi denu buddsoddiad ac y crëwyd nifer fawr o swyddi newydd, nid yw hyn wedi ei drosi i fywydau gwell i’r holl ddinasyddion a chymunedau. Mae dangosyddion pennawd yn cuddio lefelau dwfn a pharhaus o amddifadedd economaidd, iechyd gwael, troseddu, a lefelau is o gyrhaeddiad addysgol.

Yn y tymor byr i ganolig, dengys tueddiadau i’r dyfodol y bydd economi’r DU yn tyfu yn araf, gyda thwf cynhyrchiant isel a chyflogau yn aros yn eu hunfan. O’u cymryd ynghyd â’r chwyddiant uwch a ragwelir, cost gynyddol tai, a diwygio’r system lles, gellir disgwyl i’r grymoedd hyn daro galetaf yn y cymunedau tlotaf. Yn y tymor hwy, gellir disgwyl i awtomeiddio osod premiwm pellach ar sgiliau a chyflogaeth sy’n seiliedig ar wybodaeth. Yn ogystal â chynyddu sgiliau oedolion a phobl ifanc, mae angen creu llwybrau i mewn i waith ac addysg bellach, yn enwedig i’r rhai yng nghymunedau mwyaf amddifad y ddinas.

Mae byw mewn tlodi yn cael effaith arbennig o ddifrifol ar fywydau plant, gan effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol, iechyd, a hapusrwydd, yn ogystal â chael effaith a allai barhau arnynt pan yn oedolion. Gall ffocysu ar gamau ataliol cynnar gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau ac ar gymdeithas yn gyffredinol.

Bydd ymdrin â’r materion hyn angen dull traws-sector cyhoeddus, gyda’r syniadau sy’n dod i’r amlwg yn y sectorau iechyd a llywodraeth leol yn symud tuag at ddull newydd o ddarparu gwasanaethau ar lefel ‘cymdogaeth’ neu ‘ardal’.  Mae’r dulliau hyn yn ffocysu ar alinio asedau a gwasanaethau yn y sector cyhoeddus ar lefel leol, a dull ‘seiliedig ar asedau’ i ymgysylltu â’r gymuned, sy’n gwrando ac yn cynnwys y rhai sy’n derbyn y gwasanaeth ac actorion cymunedol eraill wrth ddarparu gwasanaethau. I fod yn effeithiol, bydd angen dull ar y cyd i fapio a chynllunio gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

Er mwyn cyflawni ei gweledigaeth, mae’n rhaid i Gaerdydd fod yn ddinas sydd yn lle gwych i fyw a gweithio i’w holl ddinasyddion, waeth beth fo’u cefndir neu gymuned. Gyda phoblogaeth sy’n tyfu’n gyflym a chyni cyllidol yn y sector cyhoeddus, mae’n rhaid i’r modd y cynllunnir ac y darperir gwasanaethau cyhoeddus newid er mwyn sicrhau bod y dinasyddion a’r cymunedau mwyaf agored i niwed yn y ddinas yn cael eu cefnogi, a bod y bwlch sylweddol a chynyddol mewn ffyniant, lefelau sgiliau , tai, lefelau trosedd ac iechyd – yn fyr, ansawdd bywyd – rhwng cymunedau’r ddinas yn cael ei leihau.