Caerdydd Heddiw

Mae Caerdydd yn ddinas werdd. Mae’n cael ei gwasanaethu’n dda gan fannau gwyrdd a glas, gydag ardaloedd fel Parc Bute yng nghanol Caerdydd yn cael eu cydnabod am eu harddwch eithriadol. Mae gan drigolion hefyd fynediad hawdd at barc cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac arfordiroedd yn y ddinas-ranbarth ehangach.

Mae cyfraddau ailgylchu Caerdydd yn perfformio’n gryf o gymharu â dinasoedd eraill ym Mhrydain. Cynyddodd y gyfradd ailgylchu gwastraff cartrefi o 4% i 58% ers rhoi’r targedau ailgylchu a chompostio yn eu lle. Fodd bynnag, ystyrir glendid strydoedd yn gyson fel blaenoriaeth gan drigolion.

Mae lefelau’r defnydd o geir ymhlith yr uchaf o’r dinasoedd craidd ac mae’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas yn gymharol isel, er bod lefelau cerdded a beicio yn cymharu’n dda ac yn tyfu. Cred dros 60% o’r trigolion bellach bod trafnidiaeth yn y ddinas yn broblem ddifrifol neu ddifrifol iawn. Hefyd mae dibyniaeth y ddinas ar geir yn cyfrannu at allyriadau carbon uchel yng Nghaerdydd o gymharu â llawer o ddinasoedd eraill Prydain, gyda rhai wardiau canol y ddinas yn arbennig o agored i lefelau uchel o lygredd aer.

Fel dinas ar lannau afonydd ac ar yr arfordir, mae Caerdydd yn gynhenid mewn perygl o lifogydd yn y dyfodol. Bydd angen i newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd  eithafol gael eu hadeiladu i mewn i bob agwedd o reoli twf Caerdydd yn y dyfodol.

Caerdydd Yfory

Bydd twf poblogaeth Caerdydd yn rhoi pwysau ar seilweithiau a gwasanaethau’r ddinas. Bydd mwy o bobl yn golygu angen i adeiladu mwy o dai, gwneir mwy o siwrneiau, defnyddir mwy o ynni a chrëir mwy o wastraff. Bydd twf hefyd yn rhoi pwysau ar adnoddau naturiol y ddinas a’r buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y maen nhw’n eu rhoi i Gaerdydd a’i hardal gyfagos.

Mae asesiad diweddaraf y DU ar newid yn yr hinsawdd yn nodi mai llifogydd a digwyddiadau gwres llethol fydd yn peri’r risg mwyaf i seilwaith, yr amgylchedd naturiol, a’n hiechyd a’n lles. Er y bernir mai canran fechan o dai yng Nghaerdydd sy’n wynebu perygl uchel o lifogydd, mae rhai cymunedau mewn perygl ac, wrth i’r ddinas dyfu, bydd angen lliniaru’r peryglon ar gyfer cymunedau newydd.

Wrth i’r ddinas dyfu, bydd yn creu mwy o wastraff, ac felly bydd angen parhau â’r gwelliannau sylweddol a wnaed yng nghyfraddau ailgylchu’r ddinas os yw Caerdydd am gyrraedd y targed nesaf o ailgylchu 64% o wastraff erbyn 2020.

Bydd twf hefyd yn rhoi pwysau ar system drafnidiaeth y ddinas. Y nod yw cael ‘rhaniad moddol 50:50’ erbyn 2021 – sy’n golygu y bydd 50% o deithiau drwy drafnidiaeth gynaliadwy – ac mae rhaniad moddol 60:40 hyd yn oed mwy heriol yn ei le erbyn 2026. Bydd cwrdd â’r targedau uchelgeisiol hyn yn rhoi hwb i economi’r ddinas, ac ansawdd bywyd hefyd, a gellir disgwyl cael manteision iechyd sylweddol yn ei sgil drwy lefelau cynyddol o feicio a cherdded a gwell ansawdd aer.

Mae’r amgylchedd yn allweddol i iechyd. Bydd darparu mynediad i barciau a mannau agored yn gynyddol bwysig. Yn ogystal â bod yn bwysig i fywyd gwyllt, maent yn cyfrannu at ein lles corfforol a meddyliol ac yn darparu ffocws i gymunedau. Yn ogystal, bydd angen gwella atyniad a glendid yr amgylchedd trefol i ddod â mwy o ymwelwyr a busnes i’r ddinas.