Ansawdd Aer yw’r prif achos o afiechydon yn Ewrop  ac ar ôl smygu – dyma yw’r prif bryder o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae 40,000 o farwolaethau ychwanegol y flwyddyn yn Ewrop oherwydd ansawdd aer gwael ac mae ymchwil yn awgrymu bod 143 o farwolaethau y flwyddyn yn cael eu hachosi gan lygredd aer yng Nghaerdydd.

Mae allyriadau carbon y pen yng Nghaerdydd wedi disgyn dros y degawd diwethaf ac maent yn is na chyfartaledd Cymru a’r DU. Yr allyriadau fesul pen o’r boblogaeth yw’r ail uchaf (y tu ôl i Leeds) o blith y ‘Dinasoedd Craidd’.  Wrth i’r ddinas dyfu, bydd rhaid ystyried effeithiau tai ychwanegol a cherbydau. Mae trafnidiaeth ffordd yn dal i fod yn brif ffynhonnell ac mae ei chanran o allyriadau wedi cynyddu ers 2005.

Achosir Nitrogen Deuocsid (N0²) yn yr aer gan draffig ffordd ac i ryw raddau gan gynhyrchu ynni. Gall gormod o NO² yn yr aer gynyddu niferoedd salwch resbiradol, yn enwedig ymysg plant. Mewn ardaloedd preswyl yng Nghaerdydd, mae dwyseddau N02 cyfartalog o blith yr uchaf yng Nghymru.  Mae lefelau N02 yng nghanol y ddinas yr uchaf o bob awdurdod lleol yng Nghymru ac yn uwch na therfynau llygredd yr UE.

Er gwaethaf yr uchod, mae Caerdydd yn y pedwerydd safle ymysg prifddinasoedd Ewrop o ran boddhad preswylwyr ar ansa wdd yr aer. Gall hyn ddangos bod angen rhoi addysg i ddinasyddion Caerdydd ynghylch goblygiadau ansawdd aer gwael a beth allen nhw ei wneud (o ran defnyddio dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, er enghraifft) i’w wella.