Mae dinas Caerdydd mewn perygl o ddioddef llifogydd gan ei bod ger aber ac ardal lanwol. Mae gan y ddinas amddiffynfeydd cryfion ond gallai goblygiadau newid yn yr hinsawdd gynyddu’r risg.  Rhagwelir y bydd cwymp glaw yn ystod y gaeaf yn codi yng Nghymru gan gyfartaledd o 14% erbyn y 2050au. O ran dŵr wyneb, mae Caerdydd yn un o ddim ond 8 awdurdod yng Nghymru sydd wedi ei nodi fel Ardal Lle Ceir Perygl o Lifogydd dan Reoliadau Perygl Llifogydd 2009. Gallai 12,000 o bobl fod mewn perygl yn ystod llifogydd mwy eithafol.

Nid canlyniadau ariannol yn unig sydd i lifogydd. Gall hyd yn oed fân lifogydd effeithio’n sylweddol ar les corfforol a meddyliol pobl am flynyddoedd lawer. Un o’r ardaloedd lle mae’r perygl mwyaf yw de’r ddinas ger yr arfordir. Mae pobl yn yr ardal hon yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi a chael iechyd gwaeth.

Bydd felly’n bwysig i Gaerdydd ystyried mesurau lliniaru ac amddiffynfeydd sy’n sicrhau bod datblygiadau newydd yn ystyried y potensial o ran y perygl o lifogydd.