Un o brif asedau Caerdydd yw ei seilwaith gwyrdd: cefn gwlad cyfagos; coridorau afonydd ger yr Elái, Taf Nant Fawr a Rhymni; llwybrau beicio’r ddinas a llwybrau hamdden megis Taith Taf a bioamrywiaeth ei hamgylchedd naturiol, gan gynnwys ei safleoedd dynodedig.

Enillodd Caerdydd fwy nag erioed o wobrau – 10 baner werdd – am ei pharciau yn 2016. Roedd 80% o ymatebwyr arolwg Holi Caerdydd 2016 yn fodlon ar ein parciau a’n mannau gwyrdd ac mae tri chwarter o bobl yn defnyddio parciau a mannau gwyrdd Caerdydd o leiaf unwaith yr wythnos yn ystod yr haf. Mae mynediad i’r awyr agored yn un o’r prif ffactorau yr oedd dinasyddion yn nodi oedd yn cyfrannu at eu lles (gweler y bennod Trosolwg Caerdydd i gael rhagor o fanylion).

Mae mynediad i barciau a annau glas yn cyfrannu’n sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol a lles. Fodd bynnag, nid yw mannau glas bob amser yn agos at y bobl a fyddai’n cael y budd mwyaf ohonynt. Fodd bynnag, nid yw mannau glas bob amser yn agos at y bobl a fyddai’n cael y budd mwyaf ohonynt. Mae’r ardaloedd gyda’r lefel leiaf o fynediad at fannau gwyrdd yn cyfateb i rai o’r ardaloedd sydd â’r graddfeydd uwch o drosedd a chanlyniadau iechyd gwaeth.

Mae ‘mannau glas’ Caerdydd – ei dyfrffyrdd, ei hafonydd a draeniau a Bae Caerdydd – hefyd yn ased mawr i’r ddinas.  Wedi dweud hynny, gellid ystyried y mwyafrif o gyrff dŵr yng Nghaerdydd yn rhai artiffisial neu’n rhai sydd wedi’u haddasu’n sylweddol at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd, trefoli, draenio’r tir (lefelau Gwent) a’r addasiadau a wnaed wrth ddatblygu Bae Caerdydd. Rhaid rheoli pwysau, megis cynefin sydd wedi dirywio a phwysau ar ansawdd dŵr oherwydd carthffosiaeth, carthffosydd cyfunedig yn gorlifo, camgysylltiadau a stadau diwydiannol wrth i Gaerdydd dyfu.