Mae bod heb gartref yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd rhywun, o’i allu i gynnal swydd neu gael swydd i’w iechyd a’i berthnasau. Mae’r effaith y mae digartrefedd yn ei gael ar bobl yn syth ac yn y tymor hir yn effeithio’n sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus, gan roi pwysau ychwanegol ar iechyd, gwasanaethau cymorth, yr heddlu a’r system farnwrol. Yn 2015/16, roedd Caerdydd yn uwch na chyfartaledd Cymru o ran nifer yr aelwydydd a gafodd eu hatal rhag dod yn ddigartref.  Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd wedi cynyddu.  Gwnaeth cyfrifiad blynyddol Llywodraeth Cymru o gysgwyr ar y stryd nodi 24 unigolyn yn 2014, 30 yn 2015 a 53 yn 2016 a cyfradd fesul 10,000 o gartrefi, sy’n sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru.