Caerdydd Heddiw

Caerdydd yw pwerdy economaidd Cymru, ac mae’n chwarae rhan hanfodol o ran creu swyddi a chyfoeth i bobl y ddinas a’r ddinasranbarth ehangach.

Mae economi’r ddinas yn dangos perfformiad cryf ar draws nifer o ddangosyddion pennawd, gyda thwf swyddi i fyny, diweithdra i lawr, nifer yr ymwelwyr i fyny a thwf yn y nifer o gwmnïau newydd a grëwyd.

Wedi dweud hynny, er ei fod yn llawer yn uwch na rhannau eraill o Gymru, mae cyfanswm gwerth ychwanegol gros Caerdydd (GVA) – sef yr hyn y gallem feddwl amdano fel ‘GDP’ y ddinas – yn cymharu’n gymharol wael â dinasoedd mawr Prydain sy’n perfformio ar y brig. Ar ôl 10 mlynedd o dwf parhaus yn y blynyddoedd cyn yr argyfwng economaidd, dim ond nawr y mae cynnyrch economaidd y pen yn dechrau dychwelyd i lefelau cyn yr argyfwng.

Gyda’i gilydd, er bod swyddi’n cael eu creu, mae’r ffigyrau hyn yn awgrymu nad yw economi’r ddinas yn dod yn fwy cynhyrchiol. Er mwyn cwrdd â gofynion twf, bydd yn bwysig i economi Caerdydd nid yn unig barhau i greu a denu cwmnïau newydd a swyddi newydd, ond bod y cwmnïau hyn yn fwy cynhyrchiol, gyda swyddi sy’n talu’n well.

Ni theimlwyd yr enillion twf economaidd gan bawb o drigolion y ddinas. Er gwaethaf y swyddi a grëwyd a’r buddsoddiad yng nghanol y ddinas, gellir canfod llawer o’r cymunedau tlotaf yng Nghymru yn ei phrifddinas. Mae gwahaniaethau mawr mewn lefelau diweithdra, tlodi aelwydydd, ac aelwydydd di-waith yn cyd-fynd yn agos ag anghydraddoldebau iechyd, troseddu ac addysg ar draws y ddinas.

Caerdydd Yfory

Dengys tueddiadau byd-eang y bydd dinasoedd lle y gellir disgwyl i’r rhan fwyaf o dwf poblogaeth ac economaidd ddigwydd yn yr 21ain Ganrif, a lle ceir swyddi newydd, busnesau smart a phobl fedrus ac addysgedig, yn cael eu canoli fwyfwy. Mae’r tueddiadau hyn hefyd yn amlwg yng Nghymru, gyda’r rhan fwyaf o’r twf mewn swyddi a busnesau newydd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn digwydd yn y brifddinas.

Dros yr ugain mlynedd diwethaf, canolbwyntiodd datblygiad Caerdydd ar wella ansawdd bywyd, gan ddenu pobl dalentog i fyw a gweithio yn y ddinas, ochr yn ochr â denu busnesau a chynyddu twristiaeth. Yn sail i hyn, cafwyd buddsoddiadau mawr mewn stadia chwaraeon a lleoliadau diwylliannol, a chynhaliwyd digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol cenedlaethol a rhyngwladol o bwys. Mae’n rhaid i’r ddinas barhau I wneud y mwyaf o’r asedau economaidd hyn. Bydd Gêm Derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn dod i Gaerdydd yn 2017, a Ras Hwylio o Amgylch y Byd Volvo yn 2019.

Er mwyn cynyddu cynhyrchedd, mae angen i economi’r ddinas symud tuag at ddenu a chreu busnesau o werth uwch. O ystyried y lefelau sgiliau uchel a phresenoldeb tair prifysgol yn y ddinas, mae’r deunyddiau crai ar gyfer gwneud cynnydd yno. Dengys y momentwm a welwyd yn natblygiad y Sgwâr Canolog ac yn System Arloesedd Prifysgol Caerdydd bod y newid hwn yn dechrau digwydd.

Ni theimlwyd twf economaidd y ddinas gan yr holl drigolion a chymunedau. Mae diweithdra yn parhau i fod yn rhy uchel ac mae lefelau incwm aelwydydd yn parhau i fod yn isel mewn sawl rhan o’r ddinas. O ystyried y rôl a chwaraeir gan incwm ym mhob math o amddifadedd, mae angen sicrhau twf cynhwysol ar draws Caerdydd a’r ddinas-ranbarth. Bydd addysg a sgiliau i bawb yn flaenoriaeth, yn ogystal â sicrhau bod strategaethau creu swyddi, rhaglenni sgiliau a phrojectau adfywio yn cael eu datblygu a’u rhoi ar waith mewn modd cydlynol.

Bydd cysylltu’r swyddi a grëir yn y ddinas â thrigolion y ddinas-ranbarth ehangach yn flaenoriaeth i Gaerdydd ac i Gymru. Bydd Bargen Dinas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, cyflenwi cysylltiedig Metro Caerdydd, a sefydlu llywodraethu dinas-ranbarthol effeithiol yn sylfaenol bwysig i sicrhau twf economaidd cynaliadwy, cynhwysol.