Caerdydd Heddiw

Caerdydd yw un o ddinasoedd mwyaf medrus y DU. Mae gan brifddinas Cymru nifer uchel o raddedigion fesul pen o’r boblogaeth, lefelau uchel o drigolion gyda nifer dda o arholiadau TGAU, ac ychydig iawn o bobl heb unrhyw gymwysterau o gwbl.

Mae hyn yn newyddion da i Gaerdydd.  Lefelau addysg yw un o’r mesurau pwysicaf o lwyddiant yn y dyfodol, i drigolion ac economi’r ddinas. Gyda thair prifysgol a 60,000 o fyfyrwyr, sef bron i 15% o boblogaeth y ddinas, mae prifysgolion y ddinas a’r rhanbarth yn gweithredu fel cludfelt o dalent i mewn I economi’r ddinas a’i bywyd diwylliannol.

Mae perfformiad system ysgolion y ddinas bellach yn gwella ar ôl blynyddoedd o danberfformio, gyda chynnydd o 12.6 pwynt canran yn nifer y disgyblion yn cyflawni 5 neu fwy TGAU A* i C, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg dros y pedair blynedd academaidd ddiwethaf. Erbyn hyn, mae Caerdydd yn uwch na chyfartaledd Cymru, ond mae ganddi gryn ffordd i fynd i fod ymysg y gorau. Mae gormod o ysgolion yn dal i danberfformio, yn enwedig yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y ddinas, ac er gwaethaf y cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, mae gormod o bobl ifanc yn methu â gwneud y newid i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Bydd gwella’r system addysg i’r holl bobl ifanc yn hanfodol o ran helpu i dorri’r cyswllt rhwng anfantais a’r gallu i fyw bywyd llwyddiannus a boddhaus.

 

Caerdydd Yfory

Caerdydd yw un o ddinasoedd mwyaf medrus y DU, gyda nifer uchel o raddedigion fesul pen o’r boblogaeth, lefelau uchel o drigolion gyda nifer dda o arholiadau TGAU, ac ychydig iawn o bobl heb unrhyw gymwysterau o gwbl. Mae’r system ysgolion hefyd yn gwella, er bod ganddi gryn dipyn o ffordd i fynd eto i fod ymhlith y gorau yng Nghymru.

Gan edrych i’r dyfodol, bydd twf y ddinas yn rhoi pwysau penodol ar y system addysg. Rhagwelir y bydd galw yn y dyfodol am leoedd mewn ysgolion yn cynyddu’n sylweddol yng Nghaerdydd erbyn 2035. Eisoes mae’r cyfateb i adeiladu dwy ysgol gynradd newydd bob blwyddyn. Dros y 3 blynedd nesaf, bydd Caerdydd yn buddsoddi £170m mewn adeiladu ysgolion newydd, ac adnewyddu a gwella ysgolion presennol. O ystyried maint y buddsoddiad a phwysigrwydd ysgolion mewn cymunedau, mae’n rhaid gosod y rhaglen hon wrth wraidd dulliau newydd o adfywio cymunedol, darparu gwasanaethau cyhoeddus ac ymgysylltu â dinasyddion.

Bydd hefyd yn dod yn fwyfwy pwysig i bobl ifanc gael y sgiliau iawn i lwyddo yn y gweithle. Mae strwythur economi’r DU yn newid, gan gael ei dylanwadu gan dechnoleg, awtomeiddio a chystadleuaeth fyd-eang. Y duedd gyffredinol yw tuag at gyflogaeth medrus iawn mewn swyddfeydd, a’r galwedigaethau gofalgar, hamdden a gwasanaeth, yn hytrach na gweithgynhyrchu a galwedigaethau gweinyddol. I gefnogi’r economi yn y dyfodol ac i gwrdd ag anghenion poblogaeth sy’n tyfu, bydd arfogi pobl ifanc gyda sgiliau hyblyg a throsglwyddadwy, a’u cefnogi i mewn i waith, addysg neu hyfforddiant, yn flaenoriaeth.