Mae gan Gaerdydd hanes hir o amrywiaeth ac mae pobl yn dueddol o gytuno bod Caerdydd yn ddinas gydlynol, lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn i’w cymunedau a bod ganddynt berthnasau cadarnhaol o fewn iddynt.

Mae Caerdydd yn gydradd bedwerydd o blith prifddinasoedd Ewrop o ran y graddau mae pobl yn teimlo bod tramorwyr wedi integreiddio’n dda, a dangosodd y gweithgareddau ymgysylltu ar Les fod cydlyniant yn ased allweddol.

 Fodd bynnag, mae hwn yn faes arall lle mae’r farn yn amrywio ledled y ddinas. Er bod 71.8% o bobl yng Ngorllewin Caerdydd yn teimlo bod pobl yn eu cymdogaeth yn dod ‘mlaen yn dda â’i gilydd, dim ond 48.5% o bobl yn Nwyrain Caerdydd sy’n cytuno â hyn.

Dangosir hyn hefyd wrth ystyried sut mae amddifadedd yn effeithio ar farn pobl. Dim ond 52% o’r bobl sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Caerdydd (lefel 1 ar y siart) sy’n credu bod pobl yn eu cymdogaeth yn dod ‘mlaen yn dda o gymharu â 76.9% o’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (lefel 5 ar y siart).

Nid yw Caerdydd wedi bod yn imiwn i ledaeniad eithafiaeth a therfysgaeth fyd-eang a’u heffeithiau ar les cymunedol. Mae trefniadau partneriaeth eisoes ar waith i ymateb i heriau ideolegol terfysgaeth a safbwyntiau rhwygol ac i gefnogi pobl a allai fod mewn perygl o gael eu denu at eithafiaeth. Wrth i ffurf a natur troseddu newid yn y dyfodol ac wrth i effeithiau argyfyngau byd-eang a newidiadau mewn poblogaethau ddod i’r amlwg, mae hon yn her y bydd y ddinas yn parhau i’w hwynebu.