Mae llawer o effeithiau ynghlwm wrth ymddygiad troseddol. Gallai dioddef o hyd yn oed ‘fân’ drosedd gallai gael effaith ar ei iechyd meddwl neu gorfforol, ei allu i weithio a’i berthnasau personol. Gall y gymuned gyfan deimlo’r effaith o ran eu canfyddiadau am ddiogelwch lle maen nhw’n byw a gweithio. Gall hyn hefyd newid y ffordd y caiff dinas ei hystyried, a ph’un a yw’n rhywle y byddai cwmnïau’n dymuno buddsoddi ynddi, pobl eisiau symud iddi, astudio ynddi neu ymweld â hi.

Mae Caerdydd yn ddinas gynyddol ddiogel.  Gostyngodd cyfanswm y troseddau yng Nghaerdydd yn sylweddol yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf. Er bod poblogaeth y ddinas wedi tyfu o 11%, gostyngodd y troseddau a gofnodwyd o 26%. Mae hyn yn cyfateb i dros 11,500 yn llai o droseddau a gofnodwyd yn 2015/16 o’i gymharu â 2005/06. Gan ystyried twf y boblogaeth, gostyngodd troseddu cyffredinol o 34%. Yn syml, mae trigolion Caerdydd un rhan o dair yn llai tebygol o fod yn ddioddefwr trosedd nag yr oeddynt ddegawd yn ôl. Nid Caerdydd yn unig sydd wedi dod yn lle llawer mwy diogel, oherwydd gwelwyd gostyngiadau tebyg ar draws Cymru a Lloegr.

Er bod troseddu wedi gostwng yng Nghaerdydd ar raddfa sylweddol, cafwyd darlun anghyson ar draws y categorïau amrywiol o droseddau sy’n ffurfio’r lefelau troseddu cyffredinol4. Tra bod “Byrgleriaeth Annedd” wedi lleihau o 40% a “Difrod Troseddol” wedi gostwng o 57%, bu cynnydd mewn “Trais yn Erbyn y Person”.

4Mae’n bwysig cymryd i ystyriaeth y newidiadau a wnaed gan y Swyddfa Gartref i gofnodi troseddau yng Nghymru a Lloegr yn ystod y cyfnod hwn. Er bod y canllawiau hyn yn cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Gartref, mater i bob heddlu unigol yw sut y maent yn gweithredu’r canllawiau hyn.