Caerdydd Heddiw

Gellir dweud bod pobl Caerdydd yn iachach nag erioed o’r blaen. Mae lefelau iechyd cyffredinol yn uchel gyda disgwyliad oes i ddynion a menywod yn parhau i godi, a rhagwelir y bydd menywod yng Nghaerdydd yn byw yn hirach na’r rhai yn y rhan fwyaf o’r Dinasoedd Craidd.  Fodd bynnag, mae’r penawdau hyn yn cuddio amrywiant sylweddol ar draws y ddinas, gyda gwahanol grwpiau oedran a chymunedau yn wynebu problemau iechyd eang.

Mae bwlch sylweddol a chynyddol mewn disgwyliad oes iach rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf a mwyaf amddifad yn y ddinas, sydd erbyn hyn yn sefyll ar dros 20 mlynedd.  Yn yr un modd, mae cyfraddau marwolaethau o nifer o glefydau gryn dipyn yn uwch yn y wardiau mwy amddifad.

O ran ffyrdd iach o fyw, mae mwy na hanner y boblogaeth yng Nghaerdydd yn rhy drwm, yn ordew neu’n rhy ysgafn. Cymharol ychydig o bobl sy’n ymgymryd â gweithgarwch corfforol, ac – er gwaethaf gostyngiadau diweddar – mae nifer uchel o bobl yn ysmygu ac yn yfed yn ormodol. Mae ffordd o fyw’n cyfrannu’n sylweddol at y tebygolrwydd o fyw gyda chyflyrau cronig yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae iechyd a llesiant ym mlynyddoedd cynnar plentyndod yn arbennig yn effeithio ar ganlyniadau tymor hir. Gwelir bod 1 o bob 4 o blant pump oed yng Nghaerdydd â phwysau afiach. Hefyd gall effaith profiadau niweidiol ar blant effeithio ar weddill eu bywydau.

Ar ben hynny, nodweddir twf cyflym ym mhoblogaeth Caerdydd gan gynnydd yn nifer y bobl ifanc iawn a phoblogaeth sy’n heneiddio, dau ffactor a all arwain at bwysau sylweddol ar wasanaethau iechyd a gofal y ddinas.

Caerdydd Yfory

Mae’r bennod hon yn nodi rhai o’r heriau sy’n wynebu iechyd Caerdydd heddiw, yn arbennig y bwlch mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach rhwng y rhannau cyfoethocaf a thlotaf yn y ddinas, a’r angen i annog ffyrdd iach o fyw i ymdrin â phroblem gordewdra cynyddol.

Gan edrych i’r dyfodol, mae’n annhebygol y bydd y bwlch rhwng cynnyrch economaidd gwahanol gymunedau yn lleihau, ac o ystyried y gydberthynas agos rhwng cynnyrch economaidd ac iechyd, ymddengys y bydd y bwlch mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach rhwng y bobl sy’n byw yn rhannau cyfoethocaf a thlotaf y ddinas yn cynyddu.

Bydd angen cyfeirio ymdrechion at annog ffyrdd iach o fyw, o ystyried yr effaith tymor hir ar unigolion a’r galw am wasanaethau iechyd. Er bod y nifer sy’n ysmygu yn debygol o barhau i ostwng a chanran y babanod a gaiff eu geni â phwysau geni isel yn gwella, awgryma amcanestyniadau y bydd lefelau gordewdra yn parhau i gynyddu. Mae hwn yn ffactor allweddol o ran canlyniadau iechyd. Felly bydd cynyddu mynediad at fwyd iach a chyfleoedd ymarfer corff yn bwysig o ran gwella iechyd y boblogaeth yn y dyfodol.

Bydd diwallu anghenion iechyd a gofal poblogaeth sy’n tyfu o fewn cyfyngiadau ariannol parhaus yn her tymor hir sylweddol i Gaerdydd. Disgwylir i nifer y plant o dan bedair oed gynyddu, grŵp oedran sydd â mwy o angen am wasanaethau iechyd a gofal. Mae gwaith yn mynd rhagddo yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i astudio effaith yr hyn a elwir yn ‘brofiadau plentyndod niweidiol’ – sef profiadau ingol yn ystod plentyndod sy’n niweidio plentyn yn uniongyrchol (e.e. cam-drin rhywiol neu gorfforol) neu sy’n effeithio ar yr amgylchedd lle maent yn byw (e.e.tyfu i fyny mewn tŷ gyda thrais domestig, neu ymddygiadau niweidiol). Mae arwyddion bod y profiadau hyn yn gwneud unigolion yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiadau niweidiol eu hunain a pherfformio’n wael yn yr ysgol, a gall arwain at salwch meddwl a chorfforol yn ddiweddarach mewn bywyd. Bydd datblygu atebion ataliol cydgysylltiedig gan wasanaethau cyhoeddus yn bwysig o ran cefnogi’r plant a theuluoedd sydd fwyaf agored i niwed.

Rhagwelir y bydd poblogaeth hŷn y ddinas yn cynyddu’n sylweddol, gan olygu mwy o bwysau ar y gwasanaethau gofal gyda chynnydd mewn problemau iechyd, yn enwedig cyflyrau cronig fel dementia. Mae pobl hŷn hefyd yn fwy tebygol o fod angen arosiadau hirach ac amlach yn yr ysbyty – mae bron i ddwy ran o dair o bobl a dderbynnir ar hyn o bryd i’r ysbyty dros 65 oed. Bydd ymdrin â’r lefelau cynyddol o arwahanrwydd cymdeithasol, gwella llesiant meddyliol a chorfforol mewn henaint, a rhoi mwy o gefnogaeth i bobl yn eu cymunedau yn galluogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.