Asesiad Lles Lleol Caerdydd 2017

Mae Asesiad Lles Lleol Caerdydd, roedd yr asesiad yn sail ar gyfer datblygu’r Cynllun Lles Lleol (2018-23).

Mae’n cynnwys

  • Dogfen Grynhoi yn rhoi cyd-destun ar gyfer datblygu’r Asesiad ac yn tynnu sylw at rai o’r prif ganfyddiadau.
  • Adroddiad Dinas Fyw, Dinas Byw Caerdydd 2017 sy’n rhoi trosolwg o les Caerdydd.
  • Asesiadau Lles Cymdogaethau sy’n edrych yn fanylach ar les pob un o chwe ardal partneriaeth cymdogaeth Caerdydd, er mwyn tynnu sylw at rai o’r gwahaniaethau rhwng cymunedau’r ddinas:

Sail Dystiolaeth

Mae’r sail dystiolaeth a ddefnyddir i lywio Asesiad Lles Caerdydd yn cynnwys:

  • Y 46 Dangosydd Cenedlaethol ar gyfer lles (lle’r oedd data ar gael);
  • Dangosyddion arolwg Holi Caerdydd; a
  • Dangosyddion a argymhellir gan bartneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill.

 

Ystyriwyd yr adolygiadau a’r ffynonellau data ychwanegol canlynol hefyd:

  • Arolwg Holi Caerdydd 2016
  • Asesiad risg newid yn yr hinsawdd Cymru
  • Datganiad Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Asesiad digonolrwydd gofal plant
  • Darpariaeth Feithrin
  • Asesiad Digonolrwydd Chwarae
  • Asesiad Anghenion y Boblogaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 – Asesiadau strategol