Mae Ardal Partneriaeth Cymdogaeth De-ddwyrain Caerdydd yn cynnwys Wardiau Etholiadol Adamsdown, Gabalfa, Plasnewydd, Sblot a rhan o Cathays. Mae gweddill Cathays yn rhan o ardal Canol a De’r Ddinas.
Mae 67,500 o bobl yn byw yn Ne-ddwyrain Caerdydd yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol 2014, sef 19.1% o gyfanswm Caerdydd. Mae tua hanner poblogaeth yr ardal rhwng 16 a 29 oed (gyda 3/5 o’r rhain yn 20-24) o’i gymharu ag ychydig yn fwy na chwarter ledled Caerdydd. I’r gwrthwyneb, mae cyfran lai o’r boblogaeth yn 0-15 oed a thros 30 oed na gweddill Caerdydd.
Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 79.5% o’r trigolion yn wyn sy’n is na chyfartaledd Caerdydd sef 84.7%. Hefyd, dim ond 36.5% o gartrefi yn yr ardal sy’n rhai â pherchen-feddianwyr o gymharu â 59.1% ledled Caerdydd. Mae 44.1% o gartrefi’n rhai rhent preifat, sy’n fwy na dwbl ffigur Caerdydd gyfan sef 21.9%.
Cynlluniau Gweithredu Partneriaeth Cymdogaeth
Nod y Cynlluniau Gweithredu Cymdogaeth yw cydlynu datrysiadau amlasiantaethol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r Cynlluniau Gweithredu wedi'u datblygu i sicrhau bod grwpiau'r Bartneriaeth yn gweithio i nodi datrysiadau lleol a gwella ansawdd bywyd dinasyddion dan y saith canlyniad a nodwyd yn strategaeth Beth sy'n Bwysig.
Dysgu am Bartneriaeth Cymdogaeth Caerdydd
Adroddiadau Uchafbwyntiau De-ddwyrain Caerdydd
Adroddiadau Gwybodaeth am y Gymdogaeth
Fel rhan o waith i gefnogi trefniadau Partneriaeth Cymdogaethau yng Nghaerdydd, mae cyfres o Adroddiadau Gwybodaeth Cymdogaethau ddwywaith y flwyddyn wedi eu paratoi ar gyfer aelodau etholedig, timau Partneriaeth Cymdogaethau a phartneriaid eraill.
Maent yn dod â’r ystod o ddata a gwybodaeth sydd ar gael ar lefel Partneriaeth Cymdogaethau ynghyd, yn ogystal â dadansoddiad tueddiadau lle'n briodol.
Cliciwch isod i lawrlwytho'r adroddiadau