Partneriaeth Diogelwch Cymunedol

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd yn datblygu ac yn gweithredu strategaethau i fynd i’r afael â throseddu, anhrefn, camddefnyddio sylweddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac i ddiogelu pobl rhag camdriniaeth, cam-fanteisio a niwed.

Mae’n cynnwys sefydliadau o bob rhan o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys:

  • Cyngor Caerdydd
  • Swyddfa Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
  • Heddlu De Cymru
  • Gwasanaeth Carchar Ei Mawrhydi Caerdydd
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Cymru Ddiogelach

Meysydd Blaenoriaeth

  • Grŵp Datrys Problemau – nodi materion ardal benodol a datblygu atebion partneriaeth
  • Ffyrdd o Fyw ar y Stryd ac Anghenion Cymhleth
  • Atal Trais
  • Prevent a CONTEST

Strategaethau

Adolygiadau Dynladdiad Domestig