Dogfennau allweddol

Cynllun Lles 2018-2023

Ar ôl cynnal asesiad lles lleol i ddeall cryfderau a heriau’r ddinas, mae BGC Caerdydd wedi llunio Cynllun Lles Lleol; cynllun 5 mlynedd i ymateb i’r materion a godwyd.

Drwy Gynllun Lles Caerdydd, nododd y BGC saith maes blaenoriaeth (neu Amcanion Lles) y byddai ei waith yn canolbwyntio arnynt:

  • Prifddinas sy’n gweithio dros Gymru
  • Mae Caerdydd yn tyfu mewn ffordd gadarn
  • Cymunedau diogel, hyderus a grymus
  • Mae Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu
  • Cefnogi pobl allan o dlodi
  • Mae Caerdydd yn lle gwych i dyfu’n hŷn

Beth yw Cynllun Lles?

Mae Cynllun Lles yn canolbwyntio ar wasanaethau cyhoeddus sydd angen gwaith partneriaeth rhwng gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol y ddinas, a gyda dinasyddion Caerdydd. Mae’r cynllun yn nodi lle mae angen cymryd camau fel blaenoriaeth.

Mae’r Cynllun yn cynnwys ‘Amcanion Lles’, blaenoriaethau y mae BGC Caerdydd wedi eu nodi fel y rhai pwysicaf. Mae hefyd yn cynnwys ‘Ymrwymiadau’, neu gamau ymarferol y bydd gwasanaethau cyhoeddus y ddinas yn eu cyflawni dros y 5 mlynedd nesaf.

Pam mae angen cynllun lles arnom?

Mae Caerdydd yn profi cyfnod o newid cyflym ac yn wynebu’r heriau canlynol:

  • Sicrhau bod yr holl ddinasyddion yn manteisio ar dwf y ddinas
  • Lleihau’r bwlch o ran canlyniadau rhwng y rhai mwyaf a lleiaf difreintiedig
  • Sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith y ddinas yn gadarn yn wyneb y cynnydd yn y boblogaeth
  • Darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol, yn enwedig i’r rhai sy’n agored i niwed, ar adeg o gynni economaidd.

Sail Dystiolaeth

Mae’r Cynllun yn ymateb i sylfaen dystiolaeth amrywiol ar ansawdd bywyd a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghaerdydd, a sut y gallai’r rhain newid dros y blynyddoedd i ddod.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Asesiad Lles Lleol Caerdydd: astudiaeth gynhwysfawr o ansawdd bywyd yng Nghaerdydd a gynhaliwyd yn 2017 Link to well-being assessment
  • Barn pobl Caerdydd: rhaglen ymgysylltu ar ddatblygu’r cynllun link to consultation report
  • Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol Caerdydd: adroddiad ar gyfer BGC Caerdydd sy’n nodi’r tueddiadau hirdymor sy’n wynebu Caerdydd a’r effaith y bydd y rhain yn eu cael ar wasanaethau cyhoeddus y ddinas.
  • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: I gynorthwyo BGCau wrth ddatblygu eu Cynlluniau Lles, dan Adran (42) Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) rhaid i’r Comisiynydd roi cyngor ar sut i weithredu i gyflawni amcanion drafft y BGC. Link to advice letter

Adroddiadau Blynyddol

Mae’r Adroddiadau Blynyddol ar Gynllun Lles Caerdydd yn rhoi diweddariad ar sut mae’r ddinas yn perfformio gan amlinellu’r gwaith y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd wedi’i wneud dros y 12 mis diwethaf i gyflawni ei Gynllun Lles.

Mae’r Cynllun Lles yn nodi 50 o ddangosyddion i fesur perfformiad y ddinas. Mae Caerdydd yn 2020 yn cynnig llwyfan rhyngweithiol ar gyfer cymharu perfformiad yn erbyn Dinasoedd Craidd eraill y DU ac Awdurdodau Lleol eraill Cymru.

Adroddiad Blynyddol 2018/19

Adroddiad Blynyddol 2019/20

Caerdydd yn 2020

Adroddiad Blynyddol 2020/21

Caerdydd yn 2021

Adroddiad Blynyddol 2021/22

Caerdydd yn 2022