Bwrdd CONTEST Caerdydd a’r Fro

Cyflwyniad

Fel un o brif flaenoriaethau Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Caerdydd a’r Fro, nod Bwrdd CONTEST Caerdydd a’r Fro yw arwain bygythiadau, risgiau, a gwendidau mewn perthynas â gwrthderfysgaeth yn strategol.

Mae’r bwrdd yn edrych ar strategaeth CONTEST Llywodraeth y DU, sy’n cwmpasu:

  • Atal: Atal pobl rhag mynd yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth
  • Hela: Rhwystro ymosodiadau terfysgol
  • Amddiffyn: Cryfhau ein dulliau o amddiffyn rhag ymosodiadau terfysgol
  • Paratoi: Lleddfu effaith ymosodiad terfysgol

Strwythurau Llywodraethu

Yn genedlaethol, mae Bwrdd CONTEST Caerdydd a’r Fro yn bwydo i’r canlynol:

  • Bwrdd CONTEST Cymru Gyfan
  • Grŵp Amddiffyn / Paratoi Cymru Gyfan
  • Bwrdd Prevent Cymru Gyfan

Yn lleol, mae’r Bwrdd yn bwydo i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol Caerdydd a’r Fro. Yn ogystal, mae’r Byrddau a’r Grwpiau canlynol yn bwydo i Fwrdd CONTEST Caerdydd a’r Fro:

  • Bwrdd Partneriaeth Prevent Caerdydd, sy’n cynllunio, yn monitro, ac yn gwerthuso Rhaglen Prevent Caerdydd.
  • Grŵp Parodrwydd Diogelwch Amddiffynnol Caerdydd, sy’n dod â swyddogion arweiniol o bob rhan o linynnau gwaith Amddiffyn a Pharatoi Caerdydd ynghyd.
  • Grŵp Parodrwydd Diogelwch Amddiffynnol y Fro, sy’n dod â swyddogion arweiniol o bob rhan o linynnau gwaith Amddiffyn a Pharatoi’r Fro ynghyd.
  • Bwrdd Partneriaeth Prevent y Fro*, sy’n cynllunio, yn monitro, ac yn gwerthuso Rhaglen Prevent y Fro. (*Noder: Mae Grŵp Gweithredol Bro Ddiogelach yn derbyn rôl Bwrdd Partneriaeth Prevent y Fro).

Aelodaeth y Bwrdd

Mae Aelodaeth Bwrdd CONTEST Caerdydd a’r Fro fel a ganlyn. Mae pob aelod yn gweithredu fel Cennad CONTEST ar gyfer ei sefydliad.

Aelodaeth Graidd Sefydliad
Gareth Newell (Cadeirydd) Cyngor Caerdydd
Stephanie Kendrick-Doyle Cyngor Caerdydd
Gavin Macho Cyngor Caerdydd
Isabelle Bignall Cyngor Caerdydd
Sian Sanders Cyngor Caerdydd
Deborah Gibbs Cyngor Bro Morgannwg
Debbie Spargo Cyngor Bro Morgannwg
Benedicte Lepine Cyngor Bro Morgannwg
Michelle Conquer Heddlu De Cymru
Dan Howe Heddlu De Cymru
Katherine Morris (Dirprwy Gadeirydd) CTP Wales
Damien McKeon CTP Wales
Jane Carter CTP Wales
Mark Davies CTP Wales
Simon Rees CTP Wales
John Treherne Gwasanaeth Tân De Cymru
Cari Randall Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Simon Dring Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Simon Wright Prifysgol Caerdydd
Julie Walkling Prifysgol Caerdydd
Jason Fenard Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Scott Walker Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Eirian Evans Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi
Sandra Garmson Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi
Benjamin Evans Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi
Victoria Case Adran Gwaith a Phensiynau
Dane Marsh Llywodraeth Cymru
David Bannister Y Swyddfa Gartref
Achille Versaevel Y Swyddfa Gartref