Cynllun Lles Lleol 2023-2028

Bob pum mlynedd, mae angen i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd lunio Cynllun Lles newydd. Dyma ail Gynllun Lles Caerdydd, yn cwmpasu’r cyfnod 2023-2028.

Beth yw Cynllun Lles?

Mae’r Cynllun Lles yn nodi blaenoriaethau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd o ran camau gweithredu dros y pum mlynedd nesaf, gan ganolbwyntio ar y meysydd cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus sydd yn eu hanfod yn galw am waith partneriaeth rhwng gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol y ddinas, a chyda dinasyddion Caerdydd.

Mae’r Cynllun yn cynnwys ‘Amcanion Lles’, meysydd gweithredu y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd wedi’u nodi fel y rhai pwysicaf.  Mae hefyd yn cynnwys ‘Blaenoriaethau’ neu’r camau y bydd gwasanaethau cyhoeddus y ddinas, ar y cyd, yn eu cyflawni.

Yr Amcanion Lles yw:

  • Mae Caerdydd yn Lle Gwych i Gael Eich Magu
  • Mae Caerdydd yn Lle Gwych i Dyfu’n Hŷn
  • Cefnogi Pobl Allan o Dlodi
  • Cymunedau Diogel, Hyderus a Grymus
  • Prifddinas sy’n gweithio dros Gymru
  • Caerdydd Un Blaned
  • Moderneiddio ac Integreiddio ein Gwasanaethau Cyhoeddus

Pam mae angen Cynllun Lles Arnom?

Mae Caerdydd, fel pob dinas, yn wynebu nifer o heriau cyson a mawr.   Yn benodol:

  • Rheoli adfer ac adnewyddu o bandemig Covid-19
  • Sicrhau bod twf yn y boblogaeth a llwyddiant economaidd o fudd i bob dinesydd
  • Lleihau’r bwlch cydraddoldeb rhwng y rhai mwyaf a lleiaf difreintiedig yn y ddinas
  • Bodloni anghenion poblogaeth sy’n heneiddio
  • Ymateb i alwadau cynyddol ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol
  • Gwneud y newidiadau systematig sydd eu hangen ar frys i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ac i ddatgarboneiddio’r ddinas

Ni all unrhyw wasanaeth cyhoeddus unigol ymateb i’r heriau hyn ar ei ben ei hun.  Bydd angen gwaith partneriaeth agos rhwng aelodau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, ac yn bwysicaf, dinasyddion Caerdydd.

Sylfaen Dystiolaeth

Mae’r Cynllun yn ymateb i sylfaen dystiolaeth amrywiol ar ansawdd bywyd a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghaerdydd, a sut y gallai’r rhain newid dros y blynyddoedd i ddod.      Mae hyn yn cynnwys:

  • Asesiad Lles Lleol Caerdydd: astudiaeth gynhwysfawr o ansawdd bywyd yng Nghaerdydd a gynhaliwyd yn 2022. Mae’r asesiad yn cynnwys adroddiad ‘Caerdydd Heddiw‘, sy’n nodi ble mae’r ddinas yn perfformio’n dda, ble mae angen iddi wella a’i heriau allweddol, ac adroddiad ‘Caerdydd Yfory‘, sy’n nodi’r tueddiadau hirdymor sy’n wynebu Caerdydd ac effaith y rhain ar wasanaethau cyhoeddus y ddinas.
  • Asesiad Anghenion y Boblogaeth Caerdydd a’r Fro: asesiad o anghenion gofal a chymorth ymysg trigolion Caerdydd a Bro Morgannwg, yn ogystal â’r ystod a’r lefel o wasanaethau sydd eu hangen i fodloni’r anghenion hynny.
  • Barn pobl Caerdydd: prif ganfyddiadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Lles (2023-28), yn ogystal â chanfyddiadau allweddol nifer o ymarferion ymgynghori ac ymgysylltu a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
  • Cyngor Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: I gynorthwyo Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth ddatblygu eu Cynlluniau Lles, dan Adran (42) Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) rhaid i’r Comisiynydd roi cyngor ar sut i weithredu i gyflawni amcanion drafft y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mesur Cynnydd – Dangosfwrdd y Ddinas

Bydd cynnydd yn cael ei fesur yn erbyn cyfuniad o ddangosyddion canlyniadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol fel y’u rhestrir o dan bob Amcan Lles.

Mae’r data diweddaraf ar gael ar Ddangosfwrdd Dinas-gyfan ar-lein Caerdydd. Mae’r Dangosfwrdd yn dod â nifer o setiau data at ei gilydd, wedi’u grwpio yn ôl gwahanol themâu, i gyflwyno darlun o fywyd yng Nghaerdydd. Gellir gweld y data dros amser, a lle mae ar gael, ei gymharu ag ardaloedd eraill neu ei dorri i lawr i lefel is-Gaerdydd.

Bydd y cynnydd yn erbyn dangosyddion y Cynllun Lles a’r blaenoriaethau yn cael ei adrodd yn flynyddol, fel rhan o Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Cynlluniau Lles Lleol Blaenorol